70 munud. Saith tymor. Un Spike.
James Seabright sy'n cyflwyno.
Mae'r sioe fyrlymus hon yn cyflwyno pob un o 144 pennod Buffy the Vampire Slayer, y sioe deledu boblogaidd o'r 90au, drwy lygaid yr un person sy'n gwybod y cwbl ... Spike.
Mae Buffy Revamped ar daith yn y DU yn dilyn ei hymddangosiad cyntaf arobryn yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2022, tymor yn Toronto dros y Nadolig yn 2023 a sawl taith genedlaethol lle gwerthwyd pob tocyn.
Mae'r sioe hon yn ddoniol, yn ddychanol ac yn llawn cyfeiriadau at ddiwylliant poblogaidd y 90au. Dyma'r parodi perffaith ar gyfer selogion Buffy a'r rhai hynny nad ydynt wedi'u haddysgu yn Sunnydale High fel ei gilydd.
Y crëwr yw'r digrifwr Brendan Murphy, y gwnaeth ei sioe ddiwethaf, FRIEND (The One with Gunther), ennill gwobr y ddrama orau yn y WWCA (Gwobrau Comedi Byd-eang).
Enillydd: Sioe Un Person Orau a Pherfformiad Comedi Gorau yng Ngwobrau DarkChat 2022.
Sioe Orau a Adolygwyd, Caeredin 2023.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Ar gyfer grŵp oedran 14+ Pris £28.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 14 Mawrth 2025