1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Canolfan y Grand

Bydd Canolfan Amlddiwylliannol newydd o gymunedau llawr gwlad yn cael ei sefydlu yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe.

Canolfan Amlddiwylliannol y Grand yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru, ac mae'n bartneriaeth rhwng Cyngor Hil Cymru a Chyngor Abertawe. Rydym yn croesawu holl gymunedau ac artistiaid Cymru i ddarganfod rhagor am y cyfleoedd newydd yma.

Y nod yw datblygu rhaglen gelfyddydau gyfoes ac amrywiol, cynnal digwyddiadau diwylliannol, cynnal cyfres o weithgareddau a rhaglenni sgiliau cymunedol, cynnal gwasanaethau chwaraeon cymunedol, datblygu caffi bwyd ethnig a chefnogaeth arlwyo ar gyfer gweithgareddau ac adeiladu cymundod o arbenigedd mewn amgylchedd creadigol amrywiol. 

Bydd Canolfan y Grand hefyd yn hybu cydlyniant cymunedol  a dealltwriaeth ddiwylliannol a rennir yn ogystal â darparu llinellau cyfathrebu clir a gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau llawr gwlad a darparwyr gwasanaethau, a fydd hefyd yn cynnal gwasanaethau ar y safle.

Rhestr o Ystafelloedd yr HWB

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu i drefnu i ymweld ag un o'n mannau
Gweld rhagor

Sefydliadau a grwpiau

Gweld rhagor

Gwybodaeth am Ganolfan y Grand

Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu