Mae ganddynt ddwy gyfres o'u sioe deledu eu hunain ar Channel 4, podlediad hynod boblogaidd ar iTunes a nawr maen nhw'n paratoi unwaith eto i deithio'r wlad: dyma 'The Horne Section's Hit Show''
Mae 'Band mwyaf doniol Prydain' (The Guardian) wedi ymddangos ar raglenni The Last Leg (Channel 4), Peter Crouch's Year - Late Euros (BBC One), maent yn ymddangos yn rheolaidd yng nghornel geiriadur 8 out of 10 Cats Does Countdown a nhw yw'r unig fand i gyflwyno Never Mind The Buzzcocks. Ar wahân, mae aelodau 'The Horne Section' wedi perfformio gydag artistiaid recordio, gan gynnwys Robbie Williams, Madness, Florence and the Machine, Amy Winehouse, George Ezra, Basement Jaxx, Disclosure a Noel Gallagher's High-Flying Birds.
Mae'r band chwe aelod afreolus, gwirion bost sydd er syndod yn rhoi cryn foddhad, yn cynnwys pum cerddor eithriadol ac un digrifwr angherddorol. Bydd comedi, caneuon, dawnsio brwdfrydig a chryn dipyn o chwarae bili-ffŵl. Dyma sioe newydd sbon gan y band hynod dalentog ac Alex Horne, crëwr a chyd-gyflwynydd y rhaglen Taskmaster sydd wedi ennill BAFTA a gwobr yn y 'National Comedy Awards'.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 120 munud Ar gyfer grŵp oedran 12+ Pris £30.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Llun, 17 Tachwedd 2025