Dracula
Dydd Gwener, 28 Mawrth 2025 i Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2025 Main Auditorium Gweld dyddiadau ac archebuGan Bram Stoker
Addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Nick Lane
Cyflwynir gan Blackeyed Theatre
Mewn cydweithrediad â Harrogate Theatre a Chanolfan Gelfyddydau South Hill Park
Cyfarwyddwr - Nick Lane
Cyfansoddwr - Tristan Parks
Mae hi'n 1897. Mae dynoliaeth ar fin wynebu newid technolegol enfawr, meistrolaeth wyddonol ac arloesedd ym myd y cyfryngau. Ond, wrth sefyll rhwng credoau traddodiadol, bygythiad yr anhysbys a sioc y byd newydd, mae ofn tywyllach o lawer yn dod i'r amlwg. Wrth i gysgod newydd amlygu ei hun dros Loegr, mae grŵp bach o ddynion a menywod ifanc, dan arweiniad yr Athro Van Helsing, yn gorfod wynebu brwydr arwrol i oroesi.
Mae stori gyffrous ddiamser Bram Stoker, sy'n mynd o Lundain drwy Loegr daleithiol i ddiffeithdir mynyddig Transylfania, yn corffori'r frwydr i dorri tabŵs, gwrthsefyll temtasiwn a rhwystro'r anhysbys sydd y tu allan rhag dod yn elyn mewnol.
Mae'r driniaeth theatraidd wych hon o antur Bram Stoker, a addaswyd gan Nick Lane, yn cyfuno'r Gothig Fictoraidd â'r Cyfoes, gan arddangos arddull perfformiad ensemble nodweddiadol Blackeyed Theatre, gyda seinwedd hunllefus, perfformiadau pwerus a dyluniad arloesol ar gyfer profiad theatraidd bywiogol.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Hyd 135 munud Ar gyfer grŵp oedran 12+ Pris £24.50 - £29.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 28 Mawrth 2025
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2025