Cronfa Adnewyddu
Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.

Mae gan Theatr y Grand Abertawe gymysgedd gwych o gyfleusterau llwyfan modern ac awditoriwm hyfryd o Oes Fictoria gydag amrywiaeth o nodweddion o'r cyfnod. Ein nod yw darparu'r profiad gorau posib o'r theatr ar gyfer pob perfformiad a drefnwyd yn ein lleoliad.
Nod y Gronfa Adnewyddu yw diweddaru ac adnewyddu ardaloedd allweddol yn y theatr. Hyd yn hyn mae'r gronfa wedi galluogi prosiectau megis ail-beintio'r theatr yn llwyr, gosod carpedi newydd a rhagor o gyfleusterau hygyrch.
Os ydych chi am gyfrannu at y gronfa, gwerthfawrogir unrhyw swm o arian.
Main Stage curtains and pelmet replaced