Grand Ambition
Uchelgais Grand ar gyfer Abertawe
Datganiad o Genhadaeth:
Yn Uchelgais Grand, rydym yn hyrwyddo lleisiau a doniau amrywiol Abertawe. Rydym yn gwella ac yn cysylltu cymunedau drwy'r celfyddydau creadigol i adlewyrchu ein treftadaeth ddiwylliannol fywiog, ar gyfer cynulleidfaoedd newydd sydd wedi cael eu hysbrydoli, gan ddathlu straeon Abertawe o'r stryd i'r llwyfan.
*
Mae Uchelgais Grand yn gwmni preswyl yn Theatr y Grand Abertawe. Ffurfiwyd y prosiect creadigol yn 2022 ac mae'n cynnwys yr artistiaid proffesiynol Richard Mylan, Steve Balsamo, Michelle McTernan a Christian Patterson.
Mae'r cwmni'n adfywio ac yn ailddychmygu tirwedd artistig y ddinas drwy gydweithrediadau cymunedol cyffrous. Mae Uchelgais Grand am weithio gyda gweithwyr llawrydd a sefydliadau lleol sy'n angerddol am ddathlu hanes Abertawe yn ogystal â datblygu dyfodol cyffrous ac uchelgeisiol.
Mewn cydweithrediad â Chyngor Dinas Abertawe, mae Uchelgais Grand yn denu cynulleidfaoedd newydd at Theatr y Grand Abertawe fel tŷ cynhyrchu o'r radd flaenaf. Mae'r cwmni'n meithrin y wledd o dalent artistig sydd yn y ddinas ac yn ceisio cadw'r dalent honno. Mae Uchelgais Grand yn angerddol am gefnogi artistiaid presennol, a rhai newydd.
Croesewir pob ymholiad, e-bostiwch info@grandambition.co.uk
Want to know more? Please visit our socials here...
|
|
|
|
Richard Mylan - Actor, awdur, tiwtor, cyfarwyddwr
Michelle McTernan - Actor, cyfarwyddwr, awdur, ymarferydd drama
Steve Balsamo - Canwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd, artist, tiwtor, actor
a gweithiwr llawrydd
Christian Patterson - Actor, cyfarwyddwr, awdur, canwr, tiwtor
Cefnogwyd gan - Rachel O'Riordan - Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Lyric, Hammersmith, Gary Owen - Awdur, Julia Barry - Cyfarwyddwr Gweithredol, Theatr Sherman, Caerdydd.