1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Sleeping Beauty- P***ed Up Panto

Sleeping Beauty- P***ed Up Panto

Dydd Sadwrn, 21 Mehefin 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Mae'r panto gorau i oedolion yn ôl - ac eleni, tro Sleeping Beauty yw hi i gael triniaeth P*ssed Up Panto®!

Mae P*ssed Up Panto® wedi bod yn achosi llanast doniol iawn o gwmpas y DU ers 2021 gyda'u cynhyrchiad o Cinderella, Aladdin a Jack and the Beanstalk a nawr maen nhw nôl gyda sioe newydd sbon ar gyfer 2025!

Mae P*ssed Up Panto® sydd wedi bod yn llenwi theatrau ym mhob cwr o'r wlad, wedi datblygu'r fformiwla berffaith ar gyfer panto i oedolion sy'n achosi dagrau chwerthin a seddau gwlyb ar draws y genedl!

Ond beth yn union yw P*ssed Up Panto®? Wel os ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth fyddai cast pantomeim yn ei wneud pe na bai plant yn y gynulleidfa...yna 'dych chi hanner ffordd yno! Ychwanegwch at hynny bleidlais gan y gynulleidfa dros un aelod o'r cast sy'n gorfod cyflawni her yfed anwaraidd drwy gydol y sioe (wrth i'r perfformwyr eraill wneud eu gorau glas i barhau â'r stori tan ei 'diwedd hapus') a gallwch weld pam y gallai unrhyw beth ddigwydd - a bydd fwy na thebyg yn!

Mae'n llawn ensyniadau, perfformiadau comedi doniol, parodïau o ganeuon enwog a chyfranogiad gan y gynulleidfa, gan greu perfformiad sy'n ddoniol iawn, yn eofn, yn ddigywilydd ac weithiau ychydig bach yn ddrwg... wel... yn ddrwg IAWN!

Gyda chast o berfformwyr pantomeim proffesiynol, profiadol ac un neu ddau yfwr proffesiynol, yn ogystal â chast ensemble arbennig, setiau syfrdanol, cerddoriaeth wych a pherfformiadau comedi doniol iawn, dyma noson y bydd cynulleidfaoedd yn ei chofio am weddill eu bywydau!

Argymhellir eich bod yn archebu'n gynnar gan fod tocynnau ar gyfer P*ssed Up Panto yn gwerthu'n gyflym mewn theatrau ar hyd a lled y wlad. Peidiwch â'i cholli!

Sylwer: Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref a themâu oedolion ac nid yw'n addas i'r rheini sy'n digio'n rhwydd.

 

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £25.00 - £28.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 21 Mehefin 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £25.00 - £28.00 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu