
Sioe arobryn arbennig am Tina Turner!
Dewch i ddawnsio gyda seren o'r DU sy'n dynwared Tina i'r dim, Justine Riddoch, a'i chast talentog. Dyma sioe sy'n ail-greu cyngerdd fyw gan Tina Turner mewn modd syfrdanol, gan ddathlu ei rhestr anhygoel o ganeuon.
Enillodd Tina fri mawr am berfformiadau byw beiddgar o'i chaneuon cynnar, gan gynnwys Proud Mary, River Deep - Mountain High a Nutbush City. Yn sgîl anthemau fel We Don't Need Another Hero, Simply the Best, What's Love Got to Do With It, I Don't Wanna Lose You a When the Heartache is Over yn yr 80au, roedd Tina yn ddigon enwog i gynnal cyngherddau mewn stadia.
Wedi'i chefnogi gan ei band bendigedig a'i dawnswyr yn eu dillad disglair, mae Justine yn ail-greu'r perfformiadau byw enwog hynny.
Justine yw'r perfformiwr sy'n talu'r deyrnged orau i Tina, gan ennill gwobrau'n rheolaidd yn y National Tribute Music Awards ers 2013; mae hi'n edrych fel Tina, mae hi'n dawnsio fel Tina ac, yn bwysicaf oll, mae hi'n canu fel Tina.
Ymunwch â llu o ffyddloniaid ar gyfer sioe gerddorol hynod ddifyr sy'n wirioneddol driw i'r artist gwreiddiol!
Enillydd y National Tribute Music Awards:
Coreograffi Gorau
Artist Benywaidd Gorau
Sain, Goleuadau a Chynhyrchiad Gorau
Yn ogystal â Gwobr Cyflawniad Oes
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £31.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 19 Chwefror 2026