
The Shoop Shoop Show - The Cher Collection
Dydd Mercher, 15 Ebrill 2026 Main Auditorium Archebwch nawrByddwch yn barod i brofi sioe deyrnged i Cher heb ei thebyg - mewn theatrau ledled y DU ac Ewrop yn 2026!
Trowch y cloc yn ôl gyda The Shoop Shoop Show - The Cher Collection, cynhyrchiad cerddorol cyffrous sy'n cynnig awyrgylch parti. Fe'i harweinir gan y gantores ryngwladol bwerus Rachael Hawnt, enillydd Starstruck ar ITV.
Mae'r sioe'n cwmpasu pob degawd yng ngyrfa anhygoel Cher, felly byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan ganeuon disgo a chlasuron roc pop a gyrhaeddodd frig y siartiau. Wrth i'r sioe fynd rhagddi, bydd Rachael yn dynwared Cher i'r dim wrth ganu 'Believe'.
Ac ar ben hynny, mae'r gantores gampus yn perfformio caneuon o'r albwm eiconig Dancing Queen gan Cher, gan floeddio fersiynau bythgofiadwy o ganeuon enwocaf ABBA.
Gan gynnwys gwisgoedd anhygoel wedi'u gwneud yn arbennig, cynhyrchiad a choreograffi syfrdanol, a band byw o'r radd flaenaf, bydd The Shoop Shoop Show - The Cher Collection yn eich symbylu i ganu a dawnsio drwy'r nos.
2026 yw'r amser PERFFAITH i ddathlu cerddoriaeth Cher wrth iddi droi'n 80 oed.
Felly, archebwch eich tocyn, gwisgwch eich dillad disgleiriaf a dewch i brofi athrylith un o'r cantoresau gorau erioed!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £25.00 - £32.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 15 Ebrill 2026