
Byddwch yn barod i sgrechian fel y gwnaethoch ym 1999! Boyband in the Buff yw'r gyngerdd berffaith i'ch tywys i'r gorffennol - bydd yn cynnwys eilun y byd pop Gareth Gates a chast o berfformwyr cyhyrog a hynod dalentog. Bydd y bechgyn yn canu caneuon mwyaf poblogaidd y 90au a'r 00au gyda harmonïau, symudiadau dawnsio, a llawer iawn o groen - o Backstreet Boys i NSYNC, o Blue i Take That - bydd yn sioe hiraethus a drwg.
Bydd yn dathlu pop, angerdd a chyhyrau, a byddant yn tynnu eu dillad wrth i'r cyffro gynyddu. Dyma'r noson allan orau i unrhyw un sydd erioed wedi dwlu ar fand bechgyn.
Rhybudd: bydd yn cynnwys harmonïau tynn a phants tynnach. (Ar gyfer y caneuon cyntaf, o leiaf.)
Meet and Greet at 6.00pm available for an additional £30.00 at checkout, spaces are limited.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Ar gyfer grŵp oedran 18+ Pris £35.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 30 Ebrill 2026