Does dim llawer o sioeau wedi profi llwyddiant byd-eang rhyfeddol The Simon & Garfunkel Story. Maen nhw wedi bod yn perfformio mewn sioeau llwyddiannus mewn dros 50 o wledydd o gwmpas y byd ac wedi bod yn prif berfformwyr ar lwyfannau'r West End dros 20 o weithiau, gan gynnwys sawl ymddangosiad ar lwyfan byd-enwog The London Palladium.
Gan ddefnyddio ffotograffau a deunydd ffilm gwreiddiol wedi'u taflunio, mae'r sioe lwyddiannus ryngwladol yn adrodd taith Simon & Garfunkel i enwogrwydd, gyda band byw llawn yn perfformio'r holl ganeuon poblogaidd gan gynnwys Mrs Robinson, Cecilia, Bridge Over Troubled Water, Homeward Bound a llawer mwy.
Gyda chymeradwyaeth sefyll ym mhob perfformiad o'r sioe yr oedd Art Garfunkel ei hun yn dwlu arni, peidiwch â cholli'r cyfle i weld y sioe syfrdanol hon.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £30.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 2 Gorffenaf 2025