Mae The Rolling Stones wedi teyrnasu ym myd roc a rôl ers y 1960au, gan wneud cyfraniad blaenllaw at lwyddiant ysgubol bandiau Prydeinig yn yr Unol Daleithiau ym 1964. Aeth y grŵp benben â The Beatles ar frig y siartiau ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au cynnar, sef oes aur cerddoriaeth yn nhyb llawer o bobl.
Mae sioeau byw The Stones yn enwog ac mae eu hetifeddiaeth gerddorol gyda'r goreuon. Maent wedi recordio rhai o'r caneuon roc a rôl mwyaf anhygoel erioed - gan gynnwys 'Satisfaction', 'Jumpin' Jack Flash', 'Not Fade Away', 'Honky Tonk Woman', 'Brown Sugar' a 'Start Me Up'.
Gallwch bellach ail-fyw'r holl glasuron yn The Rolling Stones Story, cyngerdd hynod egnïol sy'n dathlu cerddoriaeth band roc a rôl gorau'r byd. Gadewch i ni dreulio'r noson gyda'n gilydd yng nghwmni Mick a'r bois a mwynhau profiad sy'n efelychu'r grŵp gwreiddiol i'r dim. Bydd y cynhyrchiad campws hwn yn cynnwys cerddorion o'r radd flaenaf a Paul Ashworth, sy'n gallu dynwared Mick Jagger yn well nag unrhyw un arall yn y byd.
Bydd The Rolling Stones Story yn rhoi blas bythgofiadwy o'r gorffennol i chi. Dim ond roc a rôl yw hi, ond rydym yn ei hoffi!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 150 munud Pris £29.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 2025