Gan ddathlu 10 mlynedd anhygoel, mae Seven Drunken Nights - The Story of The Dubliners yn ôl ar gyfer 2026!
Dyma sioe sy'n cynnwys cast anhygoel o gerddorion Gwyddelig yn perfformio clasuron fel 'Whiskey in the Jar', 'The Irish Rover' a 'Rocky Road to Dublin' - gan eich sbarduno i symud eich traed wrth iddynt ddod â chyffro'r band canu gwerin Gwyddelig poblogaidd hwn yn ôl i'r llwyfan.
Mae'r cynhyrchiad calonogol hwn yn dathlu meistrolaeth gerddorol The Dubliners, hoff feibion Iwerddon, mewn cydweithrediad â'r dafarn enwog O'Donoghue's.
Gyda pherfformiadau syfrdanol ac ysbryd Gwyddelig go iawn, mae'r sioe'n cyflwyno stori sy'n cwmpasu mwy na 50 mlynedd o gerddoriaeth wych, gan ddathlu band sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o gerddorion Gwyddelig.
Achubwch ar eich cyfle i weld y cynhyrchiad o'r radd flaenaf sydd wedi cyflwyno sawl noson fythgofiadwy i theatrau llawn dros y degawd diwethaf. Seven Drunken Nights yw'r sioe Wyddelig orau sy'n difyrru cynulleidfaoedd ledled y byd bob blwyddyn.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £24.00 & £30.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 9 Ebrill 2026


