
Ar ôl dechrau ei gyrfa ym myd cerddoriaeth ym 1960, gan berfformio'n fyw am gyfnod anghredadwy o 64 o flynyddoedd, bydd Elkie Brooks yn mynd ar daith ffarwelio hir.
Dyma ddathliad o yrfa arobryn ysblennydd ym myd cerddoriaeth, lle bydd yn perfformio rhai o'i chaneuon mwyaf poblogaidd, gan gynnwys Pearl's A Singer, Lilac Wine, Fool (If You Think It's Over), Don't Cry Out Loud, blŵs, roc, jazz a deunydd o'i halbwm newydd hirddisgwyliedig, a hynny yng nghwmni ei band anhygoel, wrth gwrs.
Mae Elkie yn berfformiwr eithriadol ac mae ganddi lais digamsyniol sydd wedi sicrhau mai hi yw brenhines y blŵs ym Mhrydain. Mae'n cyfareddu ei chynulleidfa bob amser.
Achubwch ar y cyfle gwych hwn i weld artist o fri ar ei thaith ffarwelio hir.
Cynhyrchiad BookBinder & Joyce mewn cydweithrediad â Backline Studios ac RLN Music.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 135 munud Pris £34.00 - £43.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 18 Ebrill 2026