
Mae The Tumbling Paddies, un o'r actau cerddorol mwyaf poblogaidd yn Iwerddon, bellach yn dod i Loegr. Mae cyfansoddi caneuon a deunydd gwreiddiol yn rhan fawr o lwyddiant y grŵp. Mae'r caneuon poblogaidd yn cynnwys Pretty Girl, Night On The Town a The Way I Am, a fu ar frig siartiau Iwerddon am 10 wythnos yn olynol.
Ar ôl mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, nid yw'n syndod bod cerddoriaeth y grŵp yn cael ei chwarae mewn lleoliadau ym mhedwar ban byd.
Aeth y band, a ffurfiwyd yng nghynefin y cerddorion yn Sir Fermanagh yn 2014, ymlaen i ennill bri yn yr ardal am berfformio caneuon gan artistiaid eraill. Ar ôl croesawu Oisin ar yr allweddell, dechreuodd y grŵp ysgrifennu a recordio cerddoriaeth wreiddiol, gan ennill nifer cynyddol o gefnogwyr.
Yn fuan, roedd The Tumbling Paddies yn un o'r actau teithiol mwyaf toreithiog yn Iwerddon, gan chwarae gigiau gorlawn ledled y wlad, gan gynnwys TF Castlebar a'r INEC yng Nghilarne. Mae'r band bellach yn mwynhau llwyddiant byd-eang ar ôl teithiau diweddar i Dubai, yr Almaen a Sbaen.
Gyda sioe fyw egnïol a bywiog, bydd The Tumbling Paddies yn perfformio cymysgedd o ganeuon gwreiddiol a chlasuron o Iwerddon, mewn noson hynod galonogol o gerddoriaeth fyw.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 165 munud Pris £27.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 12 Medi 2026