Mae Salt House wedi bod yn un o gynheiliaid y byd canu gwerin ers dros ddegawd. Mae enw'r band fel dehonglwyr hen faledi a chaneuon cyfoes ystyriol a blaengar wedi'i atgyfnerthu gan albymau sydd wedi derbyn clod mawr a theithiau helaeth. Mae Salt House, a ddisgrifiwyd gan The Guardian fel "pleser hynaws, lleddfol", yn cyfuno cydadwaith lleisiol ac offerynnol didwyll, sy'n cynnig ennyd o fyfyrio a chysylltiad i wrandawyr.
Caneuon newydd sy'n swnio'n gyfarwydd, baledi hynafol wedi'u hadfywio. Cerddi sy'n cael y melodïau y maent yn eu haeddu.
Dylanwedir ar sain Salt House gan dirweddau Ucheldiroedd yr Alban, Northumberland a Shetland, cartrefi aelodau'r band yn ôl eu trefn, Ewan MacPherson (llais, gitarau trydan ac acwstig), Anna Hughes (llais, ffidil, fiola, gitâr tenor) a Jenny Sturgeon (llais, allweddellau, gitâr). Ymgorfforir eu hamgylchoedd naturiol yn strwythur eu cerddoriaeth sy'n cyfleu cariad at le, pobl a thraddodiad sy'n esblygu.
Mwy am aelodau'r band:
Mae Jenny Sturgeon, y mae ganddi PhD mewn ecoleg adar y môr, yn hysbys am ei gwaith unigol mewnsyllgar a'i chydweithrediadau â Birdvox ac Outliers. Drwy ei hallbwn creadigol fel artist sain a chyfansoddwraig caneuon, mae'n archwilio themâu tirwedd a chysylltiadau dynol. Cafodd ei phrosiect unigol 'The Living Mountain' a oedd yn seiliedig ar ysgrifennu Nan Shepherd, ganmoliaeth eang gan y beirniaid pan gafodd ei ryddhau.
Mae Anna Hughes, aml-offerynwraig a chyfansoddwraig amryddawn, yn defnyddio'i phrofiadau bywyd byrhoedlog i greu cerddoriaeth sy'n adlewyrchu tirweddau anghofiedig a rhyfeddodau'r byd naturiol. Mae Anna yn gweithio ar draws prosiectau amlddisgyblaethol, ac mae mawr alw amdani fel cydweithwraig. Mae hi hefyd yn rhan o'r ddeuawd Watersmeet.
Mae Ewan MacPherson yn ganwr ac yn aml-offerynnwr a chanddo dros ddau ddegawd o brofiad o weithio, a bod yn flaenllaw yn y byd cerddoriaeth werin/draddodiadol. Teithiodd yn helaeth gyda Shooglenifty am dair blynedd ar ddeg, a bu'n aelod o Malinky a Nu-Nordic Quartet Fribo. Mae ei waith sesiwn yn cynnwys gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid o Ynysoedd Prydain a thu hwnt. Disgrifiwyd ei albwm unigol mwyaf diweddar 'Ushman' gan gylchgrawn KLOF fel "...campwaith hyder a dweud cynnil; Bendigedig."
I'r rheini sydd am ddod i ddeall Salt House a'u hymdrechion artistig unigol yn well, rydym yn eich annog i archwilio'u gwefan swyddogol, neu gysylltu â nhw ar gyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am eu cerddoriaeth a'u perfformiadau sydd ar ddod.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Hyd 110 munud Pris £15.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2025