Mae Senbla yn cyflwyno cynhyrchiad Ellen Kent arobryn Opera International sy'n cynnwys Theatr Opera a Bale Cenedlaethol Wcráin, Kyiv, gydag unawdwyr rhyngwladol, corws clodwiw a cherddorfa lawn.
Gan groesawu nôl y soprano arbennig o Korea Elena Dee, y soprano o Wcráin Viktoria Melnyk, y mezzo-soprano o Wcráin Yelyzaveta Bielous, y tenor o Georgia Davit Sumbadze a'r tenor o Armenia Hovhannes Andreasyan.*
Mae'r Opera arobryn hon yn dychwelyd mewn cynhyrchiad newydd gyda setiau anhygoel gan gynnwys gardd Japaneaidd drawiadol a dillad gwych fel cimonos priodas hynafol o Japan.
Madama Butterfly gan Puccini yw un o'r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae'n adrodd hanes torcalonnus merch hardd o Japan sy'n syrthio mewn cariad ag is-gapten yn llynges America - ac mae'r canlyniadau'n ddramatig.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys yr 'Humming Chorus' melodaidd, yr aria deimladwy 'One Fine Day' a'r 'Love Duet' bythgofiadwy'.
Cyfarwyddir gan Ellen Kent.
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg
Sylwer nad oes modd gweld is-deitlau'n glir o rai seddi. Gwiriwch wrth brynu'ch tocynnau. Mae'r holl wybodaeth yn gywir wrth gael ei chyhoeddi.
*Gall y cast newid.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £23.00 - £42.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 3 Mai 2025