Teyrnged i Neil Diamond gyda Fisher Stevens
O West End Llundain i stepen eich drws, ymgollwch yn y cynhyrchiad digymar hwn sydd wedi ennill clodydd rhyngwladol am ddathlu cerddoriaeth Neil Diamond, un o enwogion y byd!
Bydd Fisher Stevens yn meddiannu'r sylw wrth iddo ddangos ei fod ymysg y goreuon wrth ddynwared Neil Diamond. Yn uniongyrchol o Theatr Lyric yn Shaftesbury Avenue yn Llundain, mae Fisher Stevens a'n cast gwych o gerddorion a chantorion proffesiynol yn barod i fynd â chi ar daith drwy bum degawd o fawredd cerddorol.
Mae Neil Diamond yn eicon sydd wedi creu argraff barhaol ar y byd cerddorol yn ystod gyrfa sydd wedi para am fwy na hanner canrif. O'i ganeuon poblogaidd wrth weithio yn y Brill Building i The Jazz Singer a'i gyngherddau byw bythgofiadwy, mae pob nodyn yn y sioe eithriadol hon yn dathlu ei etifeddiaeth.
Ymunwch â ni ar antur gerddorol ddigyffelyb drwy gampweithiau cerddorol seren sydd wedi gwerthu mwy na 130 miliwn o albymau. O 'Love On The Rocks' i 'Sweet Caroline', 'Forever In Blue Jeans', 'Song Sung Blue', 'I am... I Said', 'America', 'Cracklin Rosie', 'Red Red Wine', 'I'm A Believer' a llawer mwy: mae'r holl ganeuon yn drysorau sydd wedi diffinio cenedlaethau.
Achubwch ar y cyfle hwn i gyfrannu at y dathliad bythgofiadwy hwn! Archebwch eich tocynnau nawr a byddwch yn barod i gael eich tywys drwy seiniau bytholwyrdd Neil Diamond.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 140 munud Pris £31.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 16 Mai 2025