Caneuon enwocaf Take That yn fyw ar lwyfan
Re-Take That yw'r parti Take That gorau a fydd yn dod â chaneuon enwocaf y grŵp pop bechgyn mwyaf poblogaidd yn y byd yn fyw ar y llwyfan.
Dewch i fwynhau noson o ddathlu gyda'r bechgyn, am un noson yn unig!
Cewch glywed holl ganeuon poblogaidd Take That yn ogystal â chaneuon enwog Robbie Williams fel unawdydd - gan gynnwys Greatest Day, Let Me Go, Shine, Never Forget, Let Me Entertain You, Rock DJ, Love My Life, Angels a mwy.
Crëwyd y sioe hon gan gefnogwyr Take That ar gyfer cefnogwyr Take That - ac mae'r ddawn gerddorol, y gwisgoedd, y coreograffi, y grefft llwyfan a'r gwerthoedd cynhyrchu i gyd yn adlewyrchu'r hoffter a'r cariad mawr hwn at y band, er mwyn cyflwyno noson o safon i gynulleidfaoedd.
Cydiwch yn eich esgidiau dawnsio wrth i Re-Take That ddarparu noson heb ei hail.
Archebwch docynnau'n nawr ar gyfer noson y byddwch yn sicr o'i chofio. . .
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £34.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 17 Mai 2025