1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Kai Widdrington - Evolution

Dydd Mawrth, 20 Mai 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Bydd seren Strictly Come Dancing Kai Widdrington yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon gyda'i daith ddawns gyffrous newydd, Kai-Evolution, yn 2025.

Yn dilyn ei berfformiadau syfrdanol ar raglen boblogaidd y BBC, bydd Kai yn dod â'i dalent eithriadol a'i bresenoldeb carismatig ar y llwyfan i theatrau ar draws y wlad gyda'i daith ddawns unigol gyntaf.

Mae Kai-Evolution yn addo mynd â'r gynulleidfa ar daith gyfareddol drwy amrywiaeth o genres dawns gan arddangos ei ddoniau a'i brwdfrydedd dros ddawnsio. Bydd y daith yn cynnwys coreograffi trawiadol, perfformiadau gweledol syfrdanol a chast o ddawnswyr anhygoel. Bydd cyfle i'r cynulleidfaoedd fwynhau cymysgedd o ddawnsio neuadd traddodiadol, dawnsio Lladin a dawnsiau dyfeisgar sy'n dangos sgil a chreadigrwydd rhyfeddol Kai.

Wrth siarad am y cyffro o fynd â'i sioe newydd sbon o amgylch y DU ac Iwerddon, meddai Kai, "Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i ddod â'r sioe hon yn fyw a chael rhannu fy nghariad at ddawns gyda'r holl gefnogwyr. Rwyf wedi breuddwydio am fynd ar daith ar draws y wlad ar fy mhen fy hun erioed, felly rwy'n edrych ymlaen at wireddu hyn. Bydd y sioe hon yn ddathliad o fy nghariad at bopeth sy'n ymwneud â cherddoriaeth a dawns, ac rwy'n hynod gyffrous i gael rhannu'r profiad hwn â phawb, yn y DU ac yn Iwerddon."

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Hyd 120 munud Ar gyfer grŵp oedran 8+ Pris £46.00 - £58.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 20 Mai 2025
    Amser 7:30PM Prisiau £46.00 - £58.00 Archebwch nawr
Poster for John Barrowman - Laid Bare

John Barrowman - Laid Bare

Dydd Mercher, 12 Chwefror 2025 Archebwch nawr
Poster for Country Superstars

Country Superstars

Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu