Rat Pack - A Swingin' Christmas at The Sands
Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2025 Main Auditorium Archebwch nawrAr ôl treulio pum mlynedd yn serennu fel Dean Martin yn y sioe hynod boblogaidd ar y West End, 'The Rat Pack - Live From Las Vegas', creodd Mark Halliday y gyntaf o nifer o sioeau poblogaidd - 'The Rat Pack - Swingin' At The Sands' yn 2010.
Dros y degawd diwethaf mae'r sioe wedi mynd o nerth i nerth - fe'i perfformiwyd yn rhai o theatrau enwocaf y DU, ar longau teithio ar draws y byd, o Gatalan i Golombia, mewn digwyddiadau ar gyfer cleientiaid corfforaethol gan gynnwys Virgin Airlines ac mewn sioeau awyr agored yn Nenmarc i Dubai.
Gyda'i meistrolaeth o'r llyfr caneuon Americanaidd, mae'r sioe'n ymfalchïo yn ei dilysrwydd, ei chwmnïaeth, ei chomedi a'r gallu i sicrhau bod pawb yn cael amser gwych.
Gyda Tom Russel fel Frank Sinatra, Jim Whitley fel Sammy Davis Jr a Glenn Macnamara fel Dean Martin, bydd y sioe'n cynnwys holl ganeuon enwocaf y Rat-Pack, gan gynnwys'New York, New York', 'That's Life' a 'My Way' yn ogystal â chyfle i ganu ar y cyd i amrywiaeth o ganeuon Nadoligaidd fel 'Winter Wonderland' a 'White Christmas'.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 130 munud Pris £28.00 - £38.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2025


