
Os ydych chi'n hoff o gerddoriaeth y 60au peidiwch â cholli The Sensational 60s Experience, yr unig sioe sy'n ymwneud â'r 60au sy'n cynnwys sawl band gwahanol. Gydag ensemble anhygoel o artistiaid ac aelodau gwreiddiol o fandiau, mae'r dathliad hwn o glasuron y gorffennol yn sicr o wneud i chi fynd yn ôl mewn amser i ddegawd gwych y 60au.
P'un a ydych am ddod i ail-fyw trac sain eich ieuenctid neu am weld yr hyn y mae eich rhieni wedi bod yn ei ganmol i'r cymylau, peidiwch â cholli'r sioe hon yn 2025!
Gyda Dozy Beaky Mick & Tich, The Trems (gyda Jeff Brown, cyn-aelod The Tremeloes), The Fortunes, Mike d'Abo (cyn brif ganwr gyda Manfred Mann), Spencer James (prif ganwr gyda The Searchers am 40 mlynedd) a Vanity Fare, bydd y noson fythgofiadwy hon yn llawn o glasuron fel: The Legend of Xanadu, Silence Is Golden, Storm in a Teacup, Mighty Quinn, Everlasting Love, Hitchin' a Ride, a llawer mwy!
Byddwch yn barod i gamu yn ôl mewn amser i gyfnod pan oedd cerddoriaeth bop ar ei gorau. Mae The Sensational 60s Experience yn sioe na fyddwch chi byth yn ei hanghofio!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £34.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 30 Mai 2025