Gyda choreograffi cyffrous, anthemau bywiog a rhywfaint o anweddustra, mae taith fyd-eang y Dreamboys yn 2025 yn addo bod yn sioe sy'n sicrhau hwyl, chwerthin ac atgofion bythgofiadwy.
Gyda chast dynamig o'r dawnswyr gwrywaidd mwyaf nwyfus a chanddynt bersonoliaethau enfawr, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yn y sioe boblogaidd hon a'r fwyaf o'i bath erioed!
Mae'n amser ar gyfer y noson allan honno rydych wedi bod yn breuddwydio amdani. Ond nid sioe gyffredin mohoni - mae'n brofiad. Archebwch y seddi gorau i gael gwefr o'r rhes flaen, gallwch gyd-ganu o'ch sedd neu efallai y cewch eich dewis i fynd ar y llwyfan. A chofiwch bod cyfle ymhob sioe i chi gwrdd a chyfarch y cast a chael tynnu'ch llun gyda nhw i gofio'r profiad am byth.
Peidiwch â cholli'r adloniant arbennig hwn sydd wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar draws y byd. Archebwch eich tocynnau nawr - rhaid i ambell freuddwyd gael ei gwireddu!
Gwybodaeth bwysig
Amser 8:00PM Ar gyfer grŵp oedran 18+ Pris £30.50 - £33.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 31 Hydref 2025