1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Highland Harmony

Highland Harmony

Dydd Iau, 31 Gorffenaf 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Ymunwch â'r brodyr MacDonald am noson o safon! Mae Highland Harmony yn ddathliad bywiog o artistiaid gorau'r Alban a cherddoriaeth Geltaidd. 

O gerddoriaeth wych The Proclaimers, Wet Wet Wet, Bay City Rollers, Deacon Blue, The Bluebells, AC/DC, Paolo Nutini, Lewis Capaldi, Rod Stewart, Dougie MacLean, Runrig, i enwi ychydig yn unig, ochr yn ochr â cherddoriaeth Wyddelig boblogaidd gan gynnwys Lord of the Dance. Dyma daith gerddorol na fyddwch am ei cholli!

Arweinir y sioe gan Brian a Craig MacDonald, dau frawd a ddaeth yn 4ydd yng nghystadleuaeth The X Factor, cyn mynd ar daith o gwmpas arenâu mwyaf y DU gyda Westlife, y band enwog o Iwerddon. Cyrhaeddodd eu halbwm gyntaf,The MacDonald Brothers, frig y siartiau yn yr Alban ac mae'r ddau wedi recordio cân a roddwyd iddynt gan Syr Elton John ar gyfer un o'u halbymau.

Mae Highland Harmonyyn arddangos sgiliau amlofferynnol rhagorol y brodyr ar acordion, ffidil, piano, gitarau a chwibanau Gwyddelig, yn ogystal â'u harmonïau lleisiol unigryw, ac maent wedi'u disgrifio fel fersiwn yr Alban o'r Brodyr Everly.

Felly byddwch yn barod i ganu a gwneud dawns yr Ucheldiroedd yn ystod sioe llawn adloniant sy'n siŵr o roi gwên ar eich wynebau. Erbyn i'r sioe ddod i ben, byddwch chi'n canu nerth eich pen!

Mae sioe sy'n llawn cerddoriaeth orau'r Alban ar ddod!

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £29.00
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu