Gan gynhyrchwyr UK Pink Floyd Experience, mae Power Ballads yn dod i lwyfan y Grand!
Gwallt mawr, lleisiau mawr a llond llwyfan o hwyl - mae Power Ballads yn ein cludo i amser pan roedd cerddoriaeth yn danllyd, a chynulleidfaoedd yn yr arenâu enfawr yn canu fel un gyda'r bandiau a ddiffiniodd oes. Dewch i ddathlu amser pan roedd dawn arddangos, lleoliadau a oedd dan ei sang a sêr roc eiconig yn dod ynghyd mewn rhialtwch llwyr, gan greu pennod fythgofiadwy yn nhrac sain ein bywydau.
Dewch i ail-fyw dyddiau gorau'r stadiwm roc gyda cherddorion dawnus o'r radd flaenaf sy'n feistri ar eu crefft y mae eu perfformiad byw yn un syfrdanol a chwbl ddiledryw. Mwynhewch gân boblogaidd ar ôl cân boblogaidd gan Rainbow, Heart, Whitesnake, Bon Jovi, Bryan Adams, Aerosmith a llawer mwy!
P'un a oeddech chi yno, neu am brofi'r anthemau eiconig a ysbrydolodd genhedlaeth, mae noson fythgofiadwy o'ch blaenau gyda chynhyrchiad tra chyfoes, goleuadau disglair a'r corysau mwyaf erioed i gyd-ganu â hwy.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £27.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 30 Awst 2025