1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
What's Love Got To Do With It?

What's Love Got To Do With It?

Dydd Gwener, 29 Awst 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Mae'r sioe 'What's Love Got to do With it?' a fu'n llwyddiant rhyngwladol yn ei hôl! 

Mae 'What's Love Got to do With it?' a gyflwynir i chi gan y cynhyrchwyr arobryn a fu'n gyfrifol am 'Whitney; Queen of the Night', yn talu teyrnged i un o artistiaid cerddorol mwyaf eiconig a phoblogaidd yr 20fed ganrif, yr enwog Tina Turner. 

Yn y sioe fyw gyffrous hon, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl noson llawn egni a roc a rôl hwyliog gyda chaneuon mwyaf poblogaidd Tina'n cael eu perfformio gan gantorion anhygoel i gyfeiliant band byw llawn. 

Cafodd Tina Turner yrfa syfrdanol a rychwantodd dros 50 mlynedd, ac yn y sioe hon gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at glywed trefniadau cerddorol trawiadol o'i chlasuron mwyaf poblogaidd gan gynnwys Private Dancer, What's Love Got To Do With It?, Proud Mary, River Deep, Nutbush City Limits, Simply The Best a llawer mwy. Mae'r profiad cerddorol hwn na ddylid ei golli yn ddathliad trawiadol o fywyd a cherddoriaeth un o gantorion benywaidd pennaf ein hoes. 

Dechreuodd taith gyntaf enfawr 'What's Love Got to do With it?' ym mis Chwefror 2019 gan ddod yn gyflym yn un o'r sioeau teyrnged pennaf gyda chynulleidfaoedd yn llenwi theatrau ac arenau ledled y DU ac Ewrop. 

Cyflwynir 'What's Love Got to do With it?' gan yr hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw Cuffe and Taylor ar y cyd â Paul Roberts Productions. 

Sylwer mai cynhyrchiad teyrnged yw hwn ac nid yw wedi'i gymeradwyo gan nac yn gysylltiedig ag Ystâd Tina Turner.  

  

 

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Hyd 135 munud Pris £23.00 - £36.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Gwener, 29 Awst 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £23.00 - £36.00 Archebwch nawr
Poster for Psychic Sally

Psychic Sally

Dydd Mawrth, 2 Medi 2025 Archebwch nawr
Poster for Cirque De Celine

Cirque De Celine

Dydd Gwener, 19 Medi 2025 Archebwch nawr
Preview image coming soon

Dreamboys

Dydd Gwener, 31 Hydref 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu