1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Big Girls Don't Cry

Big Girls Don't Cry

Dydd Sadwrn, 25 Ionawr 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Y sioe deyrnged i Frankie Valli a The Four Seasons sydd wedi ennill clodydd rhyngwladol

Enillodd y band hwn enwogrwydd byd-eang 60 mlynedd yn ôl wrth i 'Sherry' gyrraedd brig y siartiau - felly dewch allan heno i ddathlu'r holl ganeuon a werthodd filiynau.

'Walk Like a Man', 'Rag Doll', 'Oh What a Night', 'Silence is Golden', a hynny yn yr un gyngerdd anhygoel! 7.30pm fydd yr amser a Theatr y Grand Abertawe fydd y lleoliad i symud eich traed.

Felly, dewch allan heno i deithio nôl mewn amser i fan lle mae'r lleuad yn llachar wrth i ni ddawnsio drwy'r nos gyda'r sioe Big Girls Don't Cry, sy'n dathlu cerddoriaeth eiconig Frankie Valli a The Four Saesons.

Bydd y sioe hon yn llawn caneuon enwog wedi'u hail-greu i'r dim gan ein cast a'n band byw ardderchog, gan eich cludo nôl mewn amser i fwynhau eich hoff ffefrynnau yn ystod noson hudol.

Yn ystod y 60au a'r 70au, cyrhaeddodd ffefrynnau megis 'Sherry', 'December 1963 (Oh What a Night)', 'Walk Like a Man', 'Rag Doll' a 'Big Girls Don't Cry' frig y siartiau, gan arwain at enwogrwydd mawr i The Four Seasons a Frankie Valli.

Ar ôl gwerthu cyfanswm anhygoel o 100 miliwn o recordiau ar draws y byd, mae gan un o ganeuon The Four Seasons le arbennig yng nghalon pawb. Mae'r sioe hon sydd wedi ennill clodydd rhyngwladol yn ail-greu harmonïau arbennig goreuon New Jersey.

Mae'n arddangos meinlais anhygoel Frankie, ac yn cynnwys ei ganeuon unigol fel 'Grease', 'Let's Hang On', 'Working My Way Back to You', 'Beggin'', 'I've Got You Under My Skin' a 'Who Loves You'.

Felly mae'n bryd i chi ymuno yn hwyl Big Girls Don't Cry a dathlu un o enwogion y byd yn ystod dwy awr o ganeuon gwych!

Am noson a hanner! Fel y dywedodd Frankie, 'It's the time, it's the place, it's the motion.'

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol, ystadau, cwmnïau rheoli na sioeau tebyg.

Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Pris £35.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 25 Ionawr 2025
    Amser 7:30PM Prisiau £35.00 Archebwch nawr
Poster for Totally Tina

Totally Tina

Dydd Sadwrn, 22 Chwefror 2025 Archebwch nawr
Poster for The Mersey Beatles

The Mersey Beatles

Dydd Gwener, 7 Mawrth 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu