
Selogion The Beatles, paratowch i gael eich syfrdanu gan hoff fand teyrnged y byd i'r Fab Four, y ganed ei aelodau yn Lerpwl.
Mae The Mersey Beatleswedi bod yn perfformio sioeau llwyddiannus o gwmpas y byd ers 1999 gyda'u dathliad clodwiw o John, Paul, George a Ringo.
Mae'r band, a ymddangosodd dros 600 o weithiau mewn cyfnod preswyl 10 mlynedd yng nghlwb enwog The Cavern Club yn Lerpwl, yn mynegi ysbryd mewnol ac allanol y Fab Four gwreiddiol yn wych.
O'r gwisgoedd, yr offerynnau, hiwmor ffraeth y Sgowsiaid ac, wrth gwrs, sain enwog Mersi, mae sioe lwyfan fyw wych The Mersey Beatles yn ddathliad nodedig o'r gerddoriaeth a newidiodd y byd.
Yn ystod eu perfformiad bythgofiadwy sy'n para dwy awr, byddwch yn profi caneuon enwocaf The Beatles, creadigrwydd seicedelig yr albwm Sgt Pepper a rhyfeddod melodig gwaith diweddarach y Fab Four.
Felly, dewch yn llu i'r sioe arbennig hon - byddwch yn siŵr o gael amser gwych!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £29.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 7 Mawrth 2025