Dewch i ddawnsio yn y sioe deyrnged ORAU i Tina Turner yn y DU - Justine Riddoch a'i chast talentog.
Pan ddaeth Tina i'r amlwg fel seren wib, swynodd bobl a oedd yn dwlu ar gerddoriaeth o'r dechrau, gan ennill bri mawr am ei pherfformiadau byw - a'r coesau hir hynny!
Rhoddodd caneuon cynnar megis 'River Deep - Mountain High', 'Proud Mary' a 'Nutbush City Limits' flas yn unig ar yr hyn a oedd ar ddod. Yn sgîl 'We Don't Need Another Hero', 'Simply the Best', 'What's Love Got to Do With It', 'I Don't Wanna Lose You' a 'When the Heartache is Over', roedd Tina yn ddigon enwog i gynnal cyngherddau mewn stadia.
Wedi'i chefnogi gan ei band hynod dalentog a'i dawnswyr disglair mewn secwinau, plu a diemwntau, Justine sy'n cynnig y deyrnged orau i Tina (The National Tribute Awards). Mae'n edrych yn debyg, mae'n symud yn debyg ac, yn bennaf oll, mae ganddi'r llais. Ymunwch â llu o gefnogwyr ffyddlon ar gyfer sioe wirioneddol arbennig, llawn hwyl a cherddoriaeth!
Enillydd yn The National Tribute Music Awards:
Coreograffi Gorau
Artist Benywaidd Gorau
Sain, Goleuadau a Chynhyrchiad Gorau
Yn ogystal â Gwobr Cyflawniad Oes
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £30.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 22 Chwefror 2025