
Mae'r Nadolig yn nesáu ac mae'r gyngerdd Wyddelig orau YN ÔL ar gyfer 2025!
Ar ôl pedair taith olynol hynod lwyddiannus lle gwerthwyd pob tocyn a chyngherddau llwyddiannus yn UDA ac Ewrop, mae A Fairytale for Christmasbellach wedi ennill miloedd o selogion ar draws y byd - ac mae bellach yn ôl yma.
Gallwch ymgolli yn hwyl yr ŵyl yn y sioe hon gan gynhyrchwyr Seven Drunken Nights - The Story of The Dubliners, wrth i gantorion, cerddorion a dawnswyr dawnus berfformio ffefrynnau adeg y Nadolig gan gynnwys 'Santa Claus Is Comin' To Town', 'Step into Christmas', 'O Holy Night' a 'The Fairytale of New York'.
....ac yn ogystal â chyfleu hwyl a llawenydd y Nadolig, mae'r gyngerdd arbennig hon hefyd yn cydnabod holl agweddau cyfoethog diwylliant Iwerddon gyda'r caneuon gorau erioed i gyd-ganu â nhw fel 'The Galway Girl', 'The Irish Rover', 'Dirty Old Town' a 'The Black Velvet Band.' Dychmygwch barti Dydd Sant Padrig....ar ddydd Nadolig!
Dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau gyda chi i rannu llawenydd A Fairytale for Christmas,noson allan fythgofiadwy i brofi Nadolig Gwyddelig.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £30.50 - £32.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 7 Tachwedd 2025