
Mae THE BLONDIE EXPERIENCE yn ddathliad o'r grŵp pync-roc enwog, Blondie. O'r record ysgubol cyntaf, Heart of Glass ym 1978, drwy'r uchafbwyntiau a gafwyd gydag Atomic, Hangin' on the Telephone, One way or AnotheraThe Tide is High, mae'r grŵp hwn sy'n dal i berfformio nawr, yn creu gwaddol gerddorol sy'n rhychwantu bron 50 o flynyddoedd.
Mae'r cynhyrchiad hwn gyda Lucy Edge fel Debbie Harry, yn dyrchafu Blondie gyda'r sioe wirioneddol drydanol hon. Mae'r cynhyrchiad gwreiddiol hwn yn cynnwys mân ffeithiau, straeon unigryw, yr holl ffefrynnau ac ail fersiynau o rai caneuon arbennig. Mae hon yn wir yn sioe na ddylid ei cholli.
Mae'r sioe yn mynd â chi ar daith drwy yrfa eiconig Blondie, a'r holl ganeuon ysgubol a gyfansoddwyd ganddynt fel Maria, Sunday Girla Call Me. Mae cerddgarwch y cerddorion penigamp sydd wedi teithio i bedwar ban byd wir yn dod â'r sioe hon yn fyw.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £29.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 7 Mehefin 2025