Yn galw ar bawb sy'n dwlu ar ddawnsio, dyma'ch noson i ddweud 'Diolch am Gerddoriaeth!'
Mae'r sioe deyrnged hon sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol yn dod â holl ganeuon ABBA a gyrhaeddodd frig y siartiau i'r llwyfan mewn cynhyrchiad hollol unigryw. Mae'r sioe hynod boblogaidd, sydd bellach yn ei 21fed flwyddyn, a chanddi sioe newydd sbon ar gyfer 2025, yn cyfuno harmonïau digamsyniol, gwisgoedd lliwgar a pherfformiadau syfrdanol gan ein cast llawn sêr.
Ymunwch â ni ar gyfer parti'r flwyddyn - gallwch ddawnsio a chael noson orau'ch bywyd wrth i ni gyflwyno'r holl ffefrynnau fel Waterloo, Dancing Queen, Super Trouper, Mamma Mia, Knowing Me, Knowing You, Gimme, Gimme, Gimme, The Winner Takes It All a llawer, llawer mwy!
Diolch am gerddoriaeth! Beth fyddai bywyd i ni heb felodi, heb felys gân, bywiog ddawns, llawen gri? Ar daith o gwmpas y wlad. Tocynnau ar werth nawr!
Sioe deyrnged yw hon ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol, ystadau, cwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.
Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £35.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 5 Gorffenaf 2025