
Ar 18 Gorffennaf 1953, cerddodd Presley trwy ddrysau Gwasanaeth Recordio Memphis Cwmni Sun Records, a elwir bellach yn Sun Records, am y tro cyntaf. Talodd $3.98 a recordiodd asetad 'demo' dwy ochrog, 'My Happiness' a 'That's When Your Heartaches Begin'. Mae pawb yn gwybod y gweddill!
Dewch i brofi'r stiwdio recordio fendigedig a'r label recordiau enwog sy'n gyfrifol am gyflwyno sêr fel Elvis Presley, Jerry Lee Lewis, Johnny Cash, Roy Orbison, Carl Perkins, Rufus Thomas ac ugeiniau o arloeswyr cerddoriaeth roc a rôl eraill, wrth iddynt ddod yn fyw ar lwyfan unwaith eto.
Crëwyd y sain nodweddiadol rydym yn ei hadnabod ac yn ei charu heddiw o gospel, blŵs, caneuon llofft stabal, canu gwlad, bwgi a cherddoriaeth swing y gorllewin gan y gweledydd cerddorol Sam Phillips. O'i stiwdio arloesol ym Memphis, cyflwynodd Sam Phillips 'That's Alright Mama', 'Great Balls of Fire', 'I Walk the Line', 'Whole Lotta Shakin'', 'Bear Cat', 'Blue Suede Shoes', 'Good Rockin' Tonight', . ymysg cannoedd o ganeuon poblogaidd a fyddai'n dylanwadu ar fyd cerddoriaeth am genedlaethau i ddod. Aeth Sam y tu hwnt i rwystrau cerddorol a hiliol ac o dan ei arweiniad ef, ganed 'Sun Sound'.
Yn cynnwys offerynnau cerdd y cyfnod a chast amryddawn o gantorion a chast cefnogol o gerddorion anhygoel, daw sain Sun yn fyw ar y llwyfan yn ystod y gyngerdd swyddogol sy'n mynd â chi yn ôl i fan geni roc a rôl.
Wedi'i chefnogi gan The Sun Entertainment Corporation, UDA - hir oes i roc a rôl. Hir oes i'r Sun!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £28.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 28 Mehefin 2025