
Sugar Pie Honey Bunch, The American Four Tops
Dydd Sadwrn, 28 Mawrth 2026 Main Auditorium Archebwch nawrTeyrnged i Enwogion Motown
Dyma'r unig sioe deyrnged Americanaidd i gerddoriaeth y Four Tops ac artistiaid enwog eraill Motown sy'n teithio yn y DU.
Mae cantorion Soul Sensation yn dod ag atgofion o athrylith Motown yn fyw ar y llwyfan mewn cyngerdd sy'n cynnwys lleisiau grymus, harmonïau ysblennydd a dawnsio disglair.
Byddwch yn mynd ar daith drwy holl ganeuon mwyaf poblogaidd y Four Tops - 'Reach Out', 'Baby I Need Your Loving', 'Walk Away Renee', 'Same Old Song', 'Loco in Acapulco', 'Standing In the Shadow', 'Bernadette' - ochr yn ochr â chlasuron gan artistiaid eraill o'r oes aur, fel The Temptations, Smokey Robinson and the Miracles, Marvin Gaye, Ben E King a llawer mwy o enwogion Motown a chanu'r enaid.
Meddai Eddie Holland, un o gyfansoddwyr caneuon enwocaf Motown o dîm Holland-Dozier-Holland, a luniodd holl ganeuon mwyaf llwyddiannus y Four Tops yn ogystal â chlasuron eraill Motown
"Mae Soul Satisfaction yn un o'r grwpiau cyd-ganu tynnaf a mwyaf proffesiynol rwyf wedi ei weld erioed - ac rwyf wedi gweld llawer!" Eddie Holland
Dyma sioe o'r radd flaenaf sy'n mynd â chi nôl i oes aur canu'r enaid!
Bydd Soul Satisfaction yn siŵr o'ch syfrdanu!
Byddwch yn barod am gyngerdd gan gantorion o fri!
YMWADIAD: Dyma sioe deyrnged gysyniadol ac nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/gwmnïau rheoli nac yn cael ei chefnogi ganddynt. Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i newid y rhaglen ar unrhyw adeg benodol.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £30.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 28 Mawrth 2026