
Stewart Lee vs The Man-Wulf
Dydd Mercher, 15 Hydref 2025 i Dydd Iau, 16 Hydref 2025 Main Auditorium Gweld dyddiadau ac archebuYn y sioe newydd sbon hon, mae Lee yn rhannu ei lwyfan â bleidd-ddyn o ddigrifwr o goedwigoedd tywyll yr isymwybod sy'n casáu dynoliaeth. Mae'r bleidd-ddyn yn gosod her gomedi ffyrnig i Lee, y digrifwr diwylliannol ddibwys a chorfforol wan. A all y bwystfil y tu mewn i ni gael ei ddistewi gan fwled arian arddull comedi lwyfan ddigyffelyb Lee a ganmolir gan y beirniaid?
Mae Stewart Lee ('Y digrifwr ar ei draed gorau sy'n fyw' yn ôl The Times), mewn perygl o gael ei adael ar ôl. Mae'n agosáu at chwe deg, mae ganddo gyflyrau iechyd gwanychol, mae ei broffil teledu wedi lleihau ac ymddengys fod ei arddull comedi lwyfan a enillodd wobr BAFTA wedi darfod amdani. Ond a yw Lee yn gallu rhyddhau ei fleidd-ddyn mewnol i'w ddyrchafu i'r un lefel ag enwogion comedi fel Dave Chappelle, Ricky Gervais a Jordan Peterson, a bod yn flaenllaw ym myd pyst pryfoclyd a chomedi hynod ddigrif sy'n llenwi stadia?
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Ar gyfer grŵp oedran 14+ Pris £30.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 15 Hydref 2025
-
Date of the performance Dydd Iau, 16 Hydref 2025