
Nid yw hon yn sioe drag arferol - mae QUEENZ yn sioe drag drawiadol, arloesol gyda chanu byw sydd wedi dod yn hynod boblogaidd ledled y byd!
Yn syth o West End Llundain ac yn dilyn eu perfformiad cyntaf trawiadol yn Las Vegas, mae'r Queenz beiddgar a bendigedig hyn yn dod â'u strafagansa drag wefreiddiol a'u canu byw i'r llwyfan. Paratowch am noson o ddawnsio, canu a drag a fydd yn dathlu enwogion y byd pop a disgo drwy gydol y degawdau.
Nid glits a glam yn unig a geir - mae Drag Me To The Discoyn llawn cynhesrwydd a dawn ddiamheuol a lleisiau pwerus, trawiadol. Paratowch i forio canu, chwerthin llond eich bol a cholli ambell ddeigryn efallai wrth i'r breninesau hyn eich difyrru mewn sioe sy'n llawn emosiwn ac egni. Mae'r sioe syfrdanol hon, gyda mwy o secwinau, syfrdandod a sêr nag erioed o'r blaen, yn un na ddylid ei cholli.
Hwyl aflednais. Dawn ddi-ildio. Ac, wrth gwrs, DIFAS DISGO!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Ar gyfer grŵp oedran 14+ Pris £24.00 - £29.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mawrth, 21 Hydref 2025