1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Port Talbot Gotta Banksy

Port Talbot Gotta Banksy

Dydd Iau, 22 Mai 2025 Arts Wing Archebwch nawr

Mis Rhagfyr 2018, mae Bansky yn cyflwyno anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot wrth i un o'i furluniau ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol. Dros nos, mae'r dref yn denu sylw rhyngwladol! Yn 2024, mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto wrth i ffwrnais chwyth y dref gynhyrchu dur am y tro olaf. Dyma ddiwydiant sydd mor hanfodol i'r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.

Yn yr wythnosau ar ôl i gelfwaith Banksy ymddangos, aeth Paul Jenkins a Tracy Harris (Mumfighter) o gwmni Theatr3 i siarad â phobl y dref. Dechreuodd y cyfan fel prosiect i gasglu ymatebion pobl i'r Banksy cyntaf i ymddangos yng Nghymru, a thros chwe blynedd daeth yn bortread o gymuned ac yn deyrnged i'w hysbryd a'i chadernid. Nawr, daw lleisiau'r gymuned i flaen y llwyfan gyda chast o actorion proffesiynol yn adrodd eu geiriau.

Mae Port Talbot Gotta Banksyyn ddrama newydd am bobl, pŵer a chelf stryd. Mae'n ddathliad o gryfder cymunedau i wrthsefyll holl heriau bywyd. Ymunwch â ni wrth i bobl Port Talbot rannu eu stori nhw yn eu geiriau eu hunain yn y ddrama bwerus, deimladwy hon.

Cyfarwyddir gan Paul Jenkins.

Cefnogir gan National Theatre Studio a chyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Ar gyfer grŵp oedran 14+ Pris £16.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Iau, 22 Mai 2025
    Amser 7:30PM Prisiau £16.00 Archebwch nawr
Poster for ADHD Unmasked

ADHD Unmasked

Dydd Llun, 9 Mehefin 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu