1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Country Superstars

Country Superstars

Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Sioe Deyrnged i Dolly Parton ac Eraill  

Gwnaeth Dolly Parton ddangos ei chefnogaeth ar gyfer y sioe ar 'The One Show' ar BBC gan ddweud, "Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eu bod nhw wedi dynwared Dolly a Kenny i'r dim ers amser mor hir." 

Mae'r sioe deithiol fwyaf yn y byd sy'n talu teyrnged i ganu gwlad - sydd wedi cael ei pherfformio yn Theatr Leicester Square yn y West End yn Llundain, yn y Grand Ole Opry ac ar Broadway yn Nashville - yn dychwelyd gyda chast arobryn. 

Mae'r sioe unigryw hon a ddisgrifiwyd gan Kenny Rogers fel un sy'n cynnwys "dynwaredwyr Dolly a Kenny arweiniol Ewrop" yn cael ei chyflwyno gan Sarah Jayne, seren "The Dolly Parton Experience", a welwyd yn fwyaf diweddar ar sioe deledu Forrest Saunders yn Nashville, UDA. 

Mae Sarah Jayne wedi perfformio ar y teledu ac ar y West End ac mae wedi bod yn dynwared Dolly Parton ers 30 mlynedd. Hi yw act deyrnged fwyaf blaenllaw Ewrop i'r Frenhines Canu Gwlad, ac mae wedi gweithio ar ddwy daith fyd-eang ddiwethaf Dolly Parton gan ddiddanu'r dorf yn Arena O2 Llundain. Bydd Andy Crust, dynwaredwr lleisiol arobryn ym myd y teledu, hefyd yn perfformio, felly paratowch i fynd ar daith drwy amser i gwrdd â'r eiconau mwyaf dylanwadol erioed yn hanes canu gwlad.  

Mae'r sioe hon yn cynnwys dynwarediadau arobryn o Patsy Cline, Johnny Cash, Billie Jo Spears, Kenny Rogers, Willie Nelson, Tammy Wynette, Garth Brooks, John Denver, Glen Campbell a Shania Twain, y seren enwog o Ganada, ac mae'n cynnwys The Country Superstars Band. 

Mae'r ddau ddynwaredwr arweiniol wedi ymddangos ar Broadway yn Nashville, yn y bar enwog Legends Corner ac yn Johnny Cash's Bar & BBQ, ac fe'u hanrhydeddwyd yn y Grand Ole Opry yn Nashville, sef digwyddiad ar gyfer artistiaid teyrnged y flwyddyn, sydd wedi ymddangos ar y teledu ar CBS Nashville! 

Mae'r perfformwyr proffesiynol hyn, sy'n edrych ac yn canu yn union fel yr enwogion canu gwlad maent yn eu portreadu, yn treulio oriau yn ymarfer eu crefft. Ystyrir pob manylyn gan gynnwys y sgript, dewis caneuon, gwallt, colur ac ystumiau, yn ogystal â gwisgoedd, propiau a chefndiroedd fideo proffesiynol. 

Paratowch am noson o ganeuon hynod boblogaidd gyda repertoire sy'n cynnwys 9 to 5, The Gambler, Islands in the Stream, Annie's Song, Stand by Your Man, Ring of Fire, Crazy, Always on my Mind, Blanket on the Ground, Jolene, Lucille, Here You Come Again, That Don't Impress Me Much, I Walk the Line, Take Me Home Country Roads, Man! I Feel Like a Woman, Coward of the County, Standing Outside the Fire, The Dance a Rhinestone Cowboy. 

Bydd canu gwlad yn para am byth a rhaid i bawb sy'n dwlu arno weld y sioe hon! 

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £30.50

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £30.50 Archebwch nawr
Poster for Taylormania

Taylormania

Dydd Sadwrn, 31 Mai 2025 Archebwch nawr
Poster for Cirque De Celine

Cirque De Celine

Dydd Gwener, 19 Medi 2025 Archebwch nawr
Poster for The Rolling Stones Story

The Rolling Stones Story

Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu