1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Julian Clary - A Fistful of Clary

Julian Clary - A Fistful of Clary

Dydd Mawrth, 13 Mai 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Ydych chi wedi clywed am y dyn dienw? Wel, dyma'r dyn digywilydd.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol taith 'A Fistful Of Clary' y llynedd, y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer, mae Julian Clary, sy'n enwog ledled y wlad, yn paratoi i fynd ar daith unwaith eto.

Felly paratowch am daith newydd sbon - ac os colloch chi allan y tro diwethaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn y tro hwn!

"Bydd y daith yn seiliedig ar thema gowbois eto," mae Clary yn cadarnhau, wrth yfed bwrbon mewn tancard pinc. "Mater o amser oedd hi cyn i fi wisgo fy nhrowsus cowboi unwaith eto. Anodd yw colli hen arfer," mae'n ychwanegu, gan ddabio'i dalcen â chlwtyn llaith.

Mae Julian yn hyderus y bydd y dynion yn y gynulleidfa mor gyffrous i ymuno â'i griw na fyddant yn gallu gwrthsefyll ei chwip! Bydd aelodau lwcus o'r gynulleidfa'n cael ymuno ag ef ar y llwyfan yn y salŵn 'Hang 'Em Low', lle'r oedd Wild Bill Hickok yn arfer cwrdd â'i ffrind arbennig, Raving Clarence la Fruit. Ond roedd bywyd yn yr Hen Orllewin yn anodd. Ni fydd pob aelod o griw gwyllt Julian yno i fod yn dyst i uchafbwynt y sioe, sef Julian yn rhoi ei hun yn anhunanol i'r dyn olaf sy'n sefyll. Pwy a ŵyr beth bydd Julian yn ei wneud am ychydig mwy o arian?

"Mae'n rhaid i ddyn wneud yr hyn y mae'n rhaid iddo ei wneud," meddai Julian cyn parhau â'i frodwaith.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Hyd 110 munud Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £32.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 13 Mai 2025
    Amser 7:30PM Prisiau £32.00 Archebwch nawr
Poster for ELO Again

ELO Again

Dydd Iau, 29 Mai 2025 Archebwch nawr
Poster for Tiny Tim's Biggest Adventure

Tiny Tim's Biggest Adventure

Dydd Mawrth, 15 Gorffenaf 2025 Archebwch nawr
Preview image coming soon

Dreamboys

Dydd Gwener, 31 Hydref 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu