Mae John Barrowman yn ddi-flewyn-ar-dafod yn ei sioe ddiweddaraf, Laid Bare, wrth iddo drafod ei frwdfrydedd dros fywyd a'i gariad dwys at ganu a hel straeon.
Yn y sioe, mae pob cân, boed yn un o glasuron Broadway neu'n rhywbeth mwy cyfoes, yn dangos arddull unigryw a llais syfrdanol John. Mae ei straeon a'i chwedlau personol yn llawn ffraethineb, swyn Albanaidd ac egni hudolus.
Mae John yn adnabyddus am ei rôl arloesol fel y Capten Jack Harkness yn Doctor Who a Torchwood, yn ogystal â rhan Malcolm Merlyn yn Arrowa sawl sioe adloniant ar nos Sadwrn. Bu John yn feirniad yn Dancing On Ice,Any Dream Will Do, How Do You Solve a Problem Like Maria ac I'd Do Anything. Bu'n ymgeisydd ar I'm a Celebrity... Get Me Out of Here a Strictly Come Dancing.
Mae ei gredydau cerddorol helaeth yn y West End a Broadway yn cynnwys rolau blaenllaw yn Anything Goes, Sunset Boulevard, Chicago, Evita, Miss Saigon, Company, Beauty and the Beast a Phantom of the Opera.
Mae Laid Bare yn fwy na chyngerdd - dyma ddathliad o ddawn, angerdd a gogoniant cerddoriaeth. Dyma sioe fythgofiadwy.
Mae profiadau cwrdd a chyfarch ychwanegol ar gael wrth dalu
Prawf Sain a Sesiwn Holi ac Ateb - £50
Cynhelir y sesiwn hon cyn y sioe o 5.30pm yn y prif awditoriwm a bydd gwesteion yn cael cipolwg ar brawf sain lle bydd John yn perfformio cwpl o ganeuon cyn gwahodd sesiwn holi ac ateb. Ni fydd modd tynnu lluniau/hun-luniau yn ystod y sesiwn hon.
Cwrdd a Chyfarch a Thynnu Llun - £40
Cynhelir y sesiwn hon yn syth ar ôl y sioe. Byddwn yn gosod baner ailadrodd delweddau yn yr awditoriwm a bydd y rhai hynny sydd â thocynnau cwrdd a chyfarch/tynnu llun yn aros yn yr awditoriwm i gael llun a chwrdd â John yn uniongyrchol.
Gall cwsmeriaid hefyd brynu'r ddwy fraint ychwanegol am gyfradd ostyngedig, sef £80. Mae hyn ar ben pris tocynnau safonol y sioe. Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn i'r sioe er mwyn manteisio ar y naill opsiwn cwrdd a chyfarch. Ni fydd modd cael llofnod yn y naill sesiwn cwrdd a chyfarch.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £30.00 - £40.00 Mae profiadau cwrdd a chyfarch ar gael – ceir manylion islaw'r disgrifiad o'r sioeChoose a date
-
Date of the performance Dydd Mercher, 12 Chwefror 2025