Gyda Lee Mead, seren y West End a'r teledu
Yn ystod y noson syfrdanol hon o gerddoriaeth i ddathlu'r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd erioed, bydd The Phantoms yn mynd â ni ar daith hudol drwy ein hoff ffefrynnau fel Les Misérables, Miss Saigon, West Side Story, Jesus Christ Superstar, Joseph, ac wrth gwrs, The Phantom of the Opera.
Bydd y cast rhagorol, sy'n cynnwys perfformwyr blaenorol y 'Phantom' yn Phantom of the Opera ar y West End, ynghyd â Lee Mead, sy'n enwog ar y West End a'r teledu, yn mynd â chi ar daith drwy ffefrynnau'r West End, Broadway a thu hwnt, o ganeuon modern poblogaidd i glasuron bythgofiadwy.
Hefyd, gallwch ddarganfod sut aeth Lee Mead o fod yn rhan o ensemble Phantom of the Opera i ddiddanu'r genedl yn eu hystafelloedd byw drwy ennill y rhaglen, Any Dream Will Do ar y BBC.
Gyda threfniannau lleisiol hyfryd, harmoni syfrdanol yn ogystal â pherfformiadau unigol rhagorol, dyma noson na ddylech ei cholli!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £32.00 - £37.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sul, 6 Ebrill 2025