
Mae John Barrowman yn dychwelyd gyda'r sioe newydd sbon hon llawn caneuon poblogaidd a chyffro'r Nadolig! Gallwch ddisgwyl eich hoff ganeuon a charolau'r Nadolig yn ogystal â straeon personol, hanesion difyr ac egni heintus John. Mae'r sioe hon yn sicr o fod yn noson llawn chwerthin, cerddoriaeth a hwyl yr ŵyl, a byddwch yn trysori'r atgofion am flynyddoedd i ddod. Dewch i fwynhau Camp at Christmas!
Cyfleoedd i fynd i brawf sain, sesiwn cwrdd a chyfarch, neu'r ddau.
Prawf Sain a Sesiwn Holi ac Ateb £50
Cynhelir y sesiwn hon cyn y sioe o 5.00pm yn y prif awditoriwm a bydd gwesteion yn cael cipolwg ar brawf sain lle bydd John yn perfformio cwpl o ganeuon cyn gwahodd sesiwn holi ac ateb. Ni fydd modd tynnu lluniau/hun-luniau yn ystod y sesiwn hon.
Cwrdd a Chyfarch â John Barrowman a Chyfle i Dynnu Llun £40
Cynhelir y sesiwn hon yn syth ar ôl y sioe. Byddwn yn gosod baner ailadrodd delweddau yn yr awditoriwm a bydd y rhai hynny sydd â thocynnau cwrdd a chyfarch/tynnu llun yn aros yn yr awditoriwm i gael llun a chwrdd â John yn uniongyrchol.
Gallwch hefyd brynu tocynnau ar gyfer y prawf sain/sesiwn holi ac ateb a'r sesiwn cwrdd a chyfarch am bris gostyngol o £80. Mae hyn ar ben pris tocynnau safonol y sioe.
Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn i'r sioe er mwyn manteisio ar y naill opsiwn cwrdd a chyfarch. Ni fydd modd cael llofnod yn y naill sesiwn cwrdd a chyfarch.
Translation Required:
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 125 munud Pris £31.00 - £41.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 15 Tachwedd 2025