MANYLION AC AMODAU CYSTADLU
Popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn cystadlu
Mae'r gystadleuaeth yn agored i ymgeiswyr dros 18 oed.
Mae'r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim.
Dylid cyflwyno un sgript yn unig.
Rhaid i'r sgript fod yn Gymraeg, yn waith gwreiddiol, nid yn addasiad, a wedi' i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan.
Ni ddylid cynnwys mwy na phedwar cymeriad.
Ni ddylai'r gwaith fod wedi'i berfformio yn unman arall nac wedi derbyn unrhyw wobr arall.
Ni ddylid cynnwys enw neu fanylion personol ar y sgript.
Ni ddylai'r sgript fod yn hwy na 10 tudalen A4.
Rhaid i'r gwaith fod wedi'i deipio, gan ddefnyddio Times Roman Numeral, maint ffont 12.
Dylid gadael llinell wag rhwng pob llinell.
Dylid rhifo pob tudalen.
Dylid cadw'r ffeil fel dogfen Microsoft Word - .doc neu .docs (dim .pdf).
Dylid cynnwys y braslun 200-250 ar flaen y sgript. Mae hyn yn ychwanegol at y 10 tudalen a gyflwynir.
Dylid cynnwys manylion yr ymgeisydd fel atodiad 200-250 gair ar wahan yn yr un e-bost â'r sgript, gyda theitl y ddrama, eich enw, eich e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad.
Yn nheitl eich e-bost nodwch deitl eich drama, eich enw llawn a Grandramodi. Er enghraifft: 'Yn y dre' - Cerys Jones - Grandramodi.
Trefnir adolygiadau chwarterol gyda chi a'ch dramatwrg. Disgwylir i chi fod yn bresennol naill ai'n bersonol neu ar-lein.
Beirniadu
Bydd ceisiadau'n cael eu beirniadu'n ddi-enw gan banel proffesiynol o fewn y diwydiant.
Dyddiadau Allweddol
Medi 10fed 2024 - Lansiad
Tachwedd 5ed 2024 - Dyddiau cau ymgeiswyr
Ionawr 10fed 2025 - Cyhoeddi rhestr fer trwy gyfryngau cymdeithasol
Ionawr 24in 2025 - Cyhoeddi'r enillydd yn Theatr y Grand Abertawe - Stiwdio Depot
(Rhaid bod pawb ar y rhestr fer yn barod i ddod)
Rhaid anfon pob cais, erbyn hanner nos (GMT) Tachwedd 5ed 2024 at post@dramaabertawe.com
Cwestiynau
All y sgript fod wedi'i chyflwynoyn rhywle arall?
Na - disgwylir sgript wreiddiol, heb ei chyflwyno, cynhyrchu, gwobrwyo neu ei datblygu yn unman arall.
Alla' i sgwennu'r sgript mewn iaith arall a threfnu i'w chyfieithu?
Na, rhaid i'r sgript fod yn Gymraeg, nid cyfieithiad.
Oes angen sgript orffenedig?
Fe'ch anogir chi i gyflwyno cyfran 10 tudalen o sgript y gellir ei datblygu ar gyfer y llwyfan. Bydd angen ichi gyflwyno braslun cyfl awn yn ogystal fel rhan o'ch cais.
Ydw i'n cadw hawlfraint fy sgript?
Ydych, chi sy'n cadw'r hawlfraint.
All y sgript fuddugol gael ei chynyrchu'n broffesiynolyn rhywle arall?
Am y ddwy flynedd gynta', Grandramodi fydd â'r hawl i ddatblygu'r sgript fuddugol.
Fydda' i'n derbyn adborth ar fy ngwaith os na fydd yn cyrraedd y rhestr fer?
Na - oherwydd nifer y ceisiadau fydd hyn ddim yn bosibl.
Alla' i gyfl wyno sgript ar gyfer theatr gerdd?
Na - mae'n gystadleuaeth benodol ar gyfer drama, ond gall cerddoriaeth fod yn rhan o'r ddrama.
Sut mae'r wobr yn cael ei chyflwyno?
Bydd yr enillydd yn derbyn £2,500 trwy BACS yn y lle cynta'. Yna, wedi cwblhau'r sgript, gyda chydsyniad y beirniaid a thîm Grandramodi, gwobrwyir £2,500 ychwanegol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ni allwn warantu y bydd y gwaith buddugol yn cael ei lwyfannu.
Bydd dyfarniad y beirniaid yn derfynol.
Wrth dderbyn y wobr byddwch yn derbyn dramatwrg am hyd at flwyddyn er mwyn datblygu'r sgript derfynol.
Rhaid cyflwyno'r gwaith gorffenedig erbyn Ionawr 24in 2026 fan bellaf.
Anfoner ceisiadau erbyn canol nos (GMT) Tachwedd 5ed 2024 at post@dramaabertawe.com