Grandramodi
Cyhoeddi'r Gystadleuaeth Dramodi Cymraeg - Grandramodi
Mae Grandramodi'n fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe & Grand Ambition. Mae'r ddau yr un mor frwdfrydig a'i gilydd wrth lansio'r Gystadleuaeth Dramodi Cymraeg.
Mae Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe a Theatr y Grand yn rhannu hanes creadigol. Yn ei hanterth y Grand oedd cartref gwyl ddrama CDGA, ddwywaith y flwyddyn, fel arfer yn cynnwys tair drama wahanol dros gyfnod o wythnos, gyda chynulleidfaoedd llawn. Mae'r oes wedi newid a CDGA wedi newid cyfeiriad i fod yn noddwyr yn hytrach na pherfformwyr, ond gan gadw at ei hamcanion o hybu'r ddrama Gymraeg yn ardal Abertawe. Dros y ddeng mlynedd dwetha', mae wedi gwobrwyo cyfanswm o 21 ysgoloriaeth i fyfyrwyr drama a noddi nifer o ddigwyddiadau theatrig yn yr ardal. Mae cynllun newydd Grandramodi'n cau'r cylch wrth gydweithio gyda Grand Ambition gyda'r amcanion penodol o hybu dramodi Cymraeg a gobeithio cyrraedd cynulleidfa newydd yn Abertawe.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno 10 tudalen o ddrama wreiddiol ar gyfer theatr wedi ei sgwennu yn Gymraeg. Rhaid i'r sgript gynnwys dim mwy na 4 cymeriad a ni ddylid fod wedi'i chynhyrchu yn unman arall nac wedi derbyn unrhyw wobr arall.
Bydd yr enillydd yn derbyn £2,500 yn y lle cynta'. Yna, wedi cwblhau'r sgript, a gyda chydsyniad y beirniaid a thîm Grandramodi, gwobrwyir £2,500 ychwanegol. Cyfanswm felly o £5000!
DYDDIAU CAU Ceisiadau - 5ed Tachwedd 2024
Dylid anfon pob cais at post@dramabertawe.com erbyn hanner nos Tachwedd 5ed 2024.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych chi, gan ddymuno pob lwc.