'Yn syth o'r West End'
Mae ELO Again yn ôl gyda'u taith drawiadol Back to the Blue i ddathlu cerddoriaeth wirioneddol ryngwladol Jeff Lynne a'r Electric Light Orchestra.
Mae'r sioe hon yn rhoi blas dramatig i chi ar sut roedd cyngerdd enwog ELO yn oes aur y band, gan ailgreu'r holl brofiad mewn ffordd broffesiynol gydag atgynhyrchiad sain, sioe oleuadau ac effeithiau gweledol rhagorol. Maent yn perfformio'r holl ganeuon poblogaidd - Mr Blue Sky, Livin' Thing, Sweet Talkin' Woman, Shine A Little Love, Confusion, Last Train To London, Roll Over Beethoven, Wild West Hero, Don't Bring Me Down, The Diary Of Horace Wimp, Telephone Line, Turn To Stone a llawer mwy.
Mae ELO Again yn darparu profiad byw trawiadol offeryniaethau enwog ELO i chi, ynghyd â'r llinynnau a'r lleisiau esgynnol. Maen nhw'n bendant yn gwybod sut i ddifyrru hefyd, wrth iddynt chwarae'r holl ffefrynnau. Mae eu fersiwn o Mr Blue Sky yn syfrdanol, yn llawn angerdd a thanbeidrwydd; bydd yr awditoriwm cyfan ar ei draed.
Dewch i ailfyw'r oes roc blaengar wrth i ELO Again dalu teyrnged i ganeuon ardderchog Jeff Lynne. Byddwch yn mwynhau gwrando ar steil roc symffonig unigryw ELO ac yn clywed rhai o ganeuon roc a phop mwyaf bythgofiadwy ein cenhedlaeth gan gynnwys
Mr Blue Sky, Roll over Beethoven a Rock 'n' Roll is King.

Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £31.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 18 Gorffenaf 2026