
Mae sioe Beautiful Crazy yn NEWYDD SBON ar gyfer 2025 ac mae'n ddathliad theatraidd cyffrous a dilys o un o sêr canu gwlad mwyaf y byd, Luke Combs.
Mae sioe Beautiful Crazy yn cynnwys y canwr gwlad arobryn Noel Boland a band dan arweiniad Sarah Jory, chwaraewr gitâr ddur bedal benywaidd gorau'r byd sydd wedi cael ei derbyn i oriel anfarwolion y BCMA, ac mae'n cynnwys caneuon poblogaidd fel Ain't No Love in Oklahoma, Where the Wild Things Are, Fast Car, When It Rains It Pours, She Got the Best of Me, Hurricane a Beautiful Crazy.
Ers iddo gamu i fyd canu gwlad, mae'r canwr-gyfansoddwr o Ogledd Carolina wedi mwynhau poblogrwydd aruthrol ac mae ganddo gefnogwyr ledled y byd. Erbyn hyn mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys 11 gwobr CMA a 4 ACM, yn ogystal ag ennill gwobr gerddoriaeth Billboard chwe gwaith.
Byddwch yn barod i gael eich swyno gan y cymysgedd perffaith o ganu gwlad, geiriau teimladwy ac adrodd straeon dilys drwy ganeuon Luke sy'n ymdrin â phopeth sy'n ymwneud â chariad, torcalon a theulu.
Archebwch eich tocynnau ar gyfer Beautiful Crazy, y profiad cerddoriaeth canu gwlad gorau.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £30.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 19 Mawrth 2026