
Yn dilyn llwyddiant noson yng nghwmni Scott Gibbs a Neil Jenkins fis Ebrill y llynedd, mae The Platinum Room yn cyflwyno noson yng nghwmni'r chwaraewr gorau erioed i wisgo crys Cymru, Syr Gareth Edwards.
Enillodd Syr Gareth 53 o gapiau dros Gymru rhwng 1967 a 1978, yn ystod ail oes aur rygbi Cymru pan gipiwyd y bencampwriaeth saith o weithiau, gan gynnwys tair camp lawn a phum coron driphlyg. Enillodd Syr Gareth Edwards 10 o gapiau dros Lewod Prydain ac Iwerddon hefyd a gwnaeth gyfraniad hollbwysig at fuddugoliaethau'r Llewod yn erbyn Seland Newydd ym 1971 a De Affrica ym 1974.
Dewch i fwynhau gwledd o straeon rygbi difyr, gan gynnwys y cais gorau erioed, yng ngeiriau'r dyn ei hun.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau cwrdd a chyfarch ar gael.
Dechreuwch eich noson mewn ffordd wych am £30 ychwanegol gyda phrofiad Cwrdd a Chyfarch. Gellir archebu hwn fel ychwanegiad ar ôl i chi ddewis eich tocyn.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £42.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 13 Medi 2025