1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Menopause The Musical 2

Menopause The Musical 2

Dydd Mawrth, 27 Mai 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Cruising Through Menopause

Yn cynnwys Carli Norris (Doctors, Hollyoaks, Eastenders), Maureen Nolan (The Nolans), Rebecca Wheatley (Casualty) and Daniele Coombe (seren y West End), byddwn yn cyflwyno taith olaf y sioe gerdd boblogaidd Menopause the Musical 2 - Cruising Through Menopauseo'r DU. Yn y dilyniant hynod ddoniol hwn i'n sioe hynod lwyddiannus, Menopause the Musical®, cawn hynt a helynt bywydau, cariadon a cholledion y pedwar cymeriad, bum mlynedd yn ddiweddarach, wrth iddynt fynd ar daith ar y moroedd mawr.

Mae Cruising Through Menopause, sy'n sôn am byliau o wres, newidiadau sydyn mewn hwyliau, pall ar y cof ac ennill pwysau, yn sioe wirioneddol ddoniol a didwyll ac yn ddehongliad calonogol o 'bleserau'r' menopos. Pan fyddwch yn mynd trwy gyfnod heriol yn eich bywyd ac yn gorfod wynebu pethau annisgwyl, mae'n anodd dod o hyd i ffrindiau go iawn a'u cadw. Ond ymunwch â ni a byddwn yn mynd â chi ar daith o hunanddarganfyddiad, cariad a chyfeillgarwch gyda thrac sain o ganeuon parodi hynod ddoniol yn gefn iddi!

I'r pedair merch hyn nid dechrau'r diwedd oedd y menopos, ond dechrau cyfeillgarwch hyfryd lle mae cariad yn goresgyn pob dim, a chyfeillgarwch byth yn pallu.

Felly, dewch yn llu a byddwn yn siŵr o wneud i chi chwerthin a llefain o bosib, wrth i chi ymuno â ni ar gyfer Menopause the Musical 2 - Cruising Through Menopause.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £33.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 27 Mai 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £33.00 Archebwch nawr
Poster for Taylormania

Taylormania

Dydd Sadwrn, 31 Mai 2025 Archebwch nawr
Poster for Les Miserables

Les Miserables

Dydd Gwener, 11 Gorffenaf 2025 i Dydd Sadwrn, 19 Gorffenaf 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu