1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
The Drifters

The Drifters

Dydd Iau, 4 Medi 2025 Main Auditorium Archebwch nawr

Mae The Drifters yn ôl ar daith yn y DU ac yn perfformio'u holl glasuron poblogaidd gan gynnwys Saturday Night at the Movies, You're More Than A Number, Come on Over to My Place, Under the Boardwalk, Kissin' In The Back Row a llawer mwy! Mae'r grŵp enwog wedi cael eu derbyn i'r 'Rock & Roll Hall of Fame', maent wedi perfformio i Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe'u rhestrir ymhlith yr Artistiaid Gorau a fu Erioed gan gylchgrawn Rolling Stone.

Dan arweiniad Tina Treadwell (merch sylfaenwyr gwreiddiol y grŵp, George a Faye Treadwell) mae The Drifters wedi mwynhau ailgyfodiad yn y blynyddoedd diweddar, gydag amryfal deithiau llwyddiannus o'r DU, gan gynnwys sioeau mewn arenâu mawr lle'r oeddent yn brif act ac, yn fwyaf nodedig, yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, lle buont yn perfformio am y tro cyntaf yn eu gyrfa ddisglair. "Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant ein teithiau diweddar o'r DU ac rydym yn eich gwahodd chi i gyd i ymuno â ni i barhau i ddathlu stori fythol ac anhygoel The Drifters."meddai Tina, wrth siarad am y daith.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £36.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Iau, 4 Medi 2025
    Amser 7:00PM Prisiau £36.00 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu