1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Young Artists Platform Concerts - March

Young Artists Platform Concerts - March

Dydd Sadwrn, 15 Mawrth 2025 Arts Wing Archebwch nawr

Gitarydd o Fryste yw Luke Bartlett ac mae'n chwarae offerynnau clasurol a thrydan. Dechreuodd chwarae ac yntau'n 10 oed a gwnaeth barhau i addysgu ei hun yn bennaf nes iddo gael ei ysbrydoli i ddilyn astudiaethau clasurol yng Ngŵyl Gitaryddion Ifanc y Byd. Mae wedi bod yn aelod o'r NYGE (Ensemble Gitaryddion Ifanc Cenedlaethol) ers amser maith ac mae bellach yn rhan o gymrodoriaeth yr ensemble.

Yn 2023, derbyniodd ysgoloriaeth uchel ei bri Ymddiriedolaeth Julian Bream ac eleni gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain yn King's Place fel Artist Ifanc IGF (Sefydliad Gitaryddion Rhyngwladol). Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dan y meistri Helen Sanderson, Zoran Dukic a John Mills ym mis Gorffennaf 2024, graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, gan dderbyn Gwobr Goffa Simon Clarkson am ddawn gerddorol gyffredinol orau, Gwobr Orpheus am lais a gitâr ac ennill Gwobr John Mills ddwywaith am gitâr arweiniol. Eleni, cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth concerto'r coleg ac ef oedd y gitarydd cyntaf i gystadlu yn rownd derfynol gwobr uchel ei bri Syr Ian Stoutzker.

Mae Luke am adfywio traddodiad y gitarydd o berfformio mewn modd dramatig a mynegiannol wrth iddo hefyd fanteisio'n fwy ar bosibiliadau technegol yr offeryn. Mae'n aelod o RES NOVUS, sef deuawd ffliwt a gitâr arobryn gyda Josephine Connor, ac mae'n falch o dderbyn cefnogaeth gan Bristol Classical Guitar Society, The Classical Guitar Centre Birmingham a The Loan Fund for Musical Instruments.

Rhaglen:

Angel Lam (b. 1987) 

Little Snow 

Andrea Balancy-Béarn (b. 1989) 

Profils [IGF 2024 CommissionAlonso Mudarra - Fantaisa que la harpa de Luduvico 

Luis de Narvaez 

Cancion del Emperador 

Manuel de Falla (1876 - 1946) 

Homenaje pour Debussy  

Vicente Asencio (1908 - 1979) 

Tango de la Casada Infiel  

Francisco Tarrega (1852 - 1909i) 

Capricho Arabe 

 

Gwybodaeth bwysig

Amser 1:00PM Hyd 60 munud Pris £7.50

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 15 Mawrth 2025
    Amser 1:00PM Prisiau £7.50 Archebwch nawr
Poster for John Adams

John Adams

Dydd Gwener, 21 Mawrth 2025 Archebwch nawr
Poster for The Story of Guitar Heroes

The Story of Guitar Heroes

Dydd Sadwrn, 12 Ebrill 2025 Archebwch nawr

Dewch o hyd i ni ac archebwch

Prynu tocynnau ar gyfer sioeau neu logi un o'n lleoedd
Prynu tocynnau ar gyfer sioeau neu logi un o'n lleoedd.
Rydym yng nghanol Abertawe!
Gweld rhagor
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu